
Mae 20 tocyn am ddim wedi eu rhyddhau ar gyfer dangosiad o
Anweledig: Gwaith Mewn Datblygiad nos Wener yma yn Pontio, Bangor.Trioleg gafaelgar Aled Jones Williams am brofiad Glenda (Ffion Dafis) sy'n wynebu iselder dwys yw Anweledig.Yn dilyn ymateb ysgubol i Anweledig: Ar Lan y Môr (rhan 1), mae Aled wedi cwblhau'r ail a thrydedd rhan.Rydym wedi gwahodd cynulleidfa ddethol i'r dangosiad hwn fel y gallwn rannu'r gwaith mewn datblygiad a chasglu adborth gwerthfawr.
Ebostiwch post@franwen.com neu ffoniwch 01248 715 048 i archebu tocynnau am ddim (uchaf. 2 docyn bob person). Cyntaf i'r felin!