Lansio cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus i rannu gwaith newydd mewn datblygiad.
Gan gychwyn ym mis Mawrth, byddwyn yn agor cil y drws ar gynyrchiadau’r dyfodol trwy gynnal digwyddiadau
Sgratsh Sul.Bydd y digwyddiadau, fydd yn ddigidol am y tro, yn digwydd bob yn ail fis ac yn cynnwys darlleniadau o waith mewn datblygiad, ymarferion agored a sgyrsiau anffurfiol am y straeon a’r prosiectau sy’n cadw ni yn brysur.Mae'r Sgratsh Sul cyntaf ar ddydd Sul, 21 Mawrth, yn ddigwyddiad dwbl ar-lein, gyda'r cynyrchiadau
Popeth ar y Ddaear a
Branwen yn hawlio'r sylw.Ym mis Ebrill bydd
Diwrnod Arall, cynhyrchiad ar ffurf gig theatr gan yr amryddawn Casi Wyn, sy’n ymrafael â chysyniad o annibyniaeth i Gymru, yn cael ei rannu.Yn mis Mai bydd y rhannu yn digwydd dros benwythnos cyfa' wrth i ni rannu a dathlu gwaith ein
Criw ‘Sgwennu Newydd, ar y cyd ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Cyfle i chi wybod mwy am 10 darn o waith gwreiddiol gan 10 o ‘sgwennwyr ifanc newydd sy’n archwilio’r Gymru gyfoes
"Rydym yn hynod o falch o gydweithio gyda rhai o artistiaid mwyaf blaengar ac uchelgeisiol Cymru i greu cynnyrch beiddgar a pherthnasol i’n cynulleidfaoedd," meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen."Mae’n gyfnod hollbwysig i artistiaid a chymunedau greu theatr sy’n mynd i’r afael â materion perthnasol er mwyn herio a dathlu’r Gymru gyfoes wrth i ni ddod allan o gyfnod hynod o anodd. Mae’r gwaith newydd yma yn gwneud union hynny, tra hefyd yn bod yn uchelgeisiol gyda ffurfiau newydd a herio ffiniau theatr traddodiadol."Bydd Sgratsh Sul yn gyfle i ni sicrhau ein bod yn dod â’n cynulleidfaoedd chwilfrydig ac angerddol ar y daith gyda ni. Boed ar-lein neu’n fyw, mewn criwiau bach neu fawr – rydym yn ymrwymo i rannu ein stori gyda chi ym mha bynnag ffordd sy’n addas."Mae'n destun balchder i ni gael gweithio hefo 47 o artistiaid mwyaf beiddgar a chyffrous Cymru i ddatblygu'r gweithiau newydd yma yn ystod y 10 mis diwethaf - gyda'r mwyafrif ohonynt o dan 30 oed. Mae'n hynod o gyffrous."
I fachu tocyn i ddigwyddiadau Sgratsh Sul, cofrestrwch drwy franwen.com/sgratsh ____________DYDDIADAU SGRATSH SUL
Cofiwch rhaid ymuno â rhestr Scratsh Sul i gael mynediad at y tocynnau (pan fyddant ar gael).DYDD SUL, 21 MAWRTH 20213pm - 4.30pm
Popeth ar y Ddaear
Cynhyrchiad uchelgeisiol sy’n cyfuno ‘spoken word’, cerddoriaeth a theatr gan Nico Dafydd, Osian Williams, Marged Tudur, Mari Elen, Iestyn Tyne a Lauren Connolly.Dyma gynhyrchiad fydd yn archwilio ymateb unigolion pan fo’u rhyddid a’u hewyllys rydd yn cael eu cymryd oddi arnynt a beth sydd yn digwydd pan nad oes dim dewis?Mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru.5pm - 6.30pm
Branwen
Sioe gerdd gyfoes a ffyrnig gan Seiriol Davies, Hanna Jarman, Elgan Rhys a Gethin Evans. Un o’n hoff chwedlau wedi ei hail-ddehongli ar gyfer y chwalfa o fyd sydd ohoni heddiw.Mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru.
DYDD SUL, 25 EBRILL 2021 (3pm - 4.30pm)Diwrnod Arall
Cyfuniad trydanol o theatr byw a cherddoriaeth bop fydd yn herio’r cwest am annibyniaeth gan Casi Wyn a Gethin Evans.Theatr ar ffurf gig sy’n dilyn stori merch deunaw oed, wrth iddi ddychwelyd adref i bleidleisio yn refferendwm annibyniaeth cyntaf Cymru.Gyda chefnogaeth gan Theatr y Sherman.
DYDD SADWRN A SUL, 15 - 16 MAI 2021Penwythnos ‘Sgwennu Newydd
Cyfle i wybod mwy am waith 10 awdur newydd sy'n rhan o gynllun
‘Sgwennu Newydd Frân Wen, mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru.Y 10 sgwennwyr yw Lowri Morgan, Ciaran Fitzgerald, Alaw Fflur Tomos, Maisie Ayodeji Awen, Megan Angharad Hunter, Nia Morais, Mared Llywelyn, Ifan Pritchard, Joseff Owen, Iwan Fôn ac Iwan Teifion Davies.
*Cofrestrwch ar gyfer Sgratsh Sul yma