Pay Dd6
14.10.19

Hamlets

Cynllun creadigol cenedlaethol am ddim i bobl ifanc 18 - 25 oed.

Hamlets prosiect cyfranogiMae Hamlet yn ferch neu'n fachgen ifanc. Yn gadael y nyth am y tro cyntaf. Yn flin gyda'r hyn sy'n digwydd o'u cwmpas. Yn galaru dros rhywun agos. Yn cwestiynu eu bodolaeth a phopeth am y byd. Dyma gyfle am ddim i weithio gyda gwneuthurwyr theatr mwyaf deinamig Cymru, i gyfarfod pobl eraill a chreu theatr sy’n cwestiynu pwy yw Hamlet heddiw a beth mae Hamlet yn ei olygu i CHI.Wrth i leisiau eich cenhedlaeth chi ddod i’r amlwg ar draws y byd... beth sydd gan bobl ifanc Cymru i'w ddweud? Rydyn ni'n rhedeg un o'r Hybiau Hamlets cenedlaethol ochr yn ochr gyda Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug), Canolfan Mileniwm Cymru (Caerdydd) a Canolfan Theatr a Chelfyddydau Glan yr Afon (Casnewydd), a bydd rhain yn dod at ei gilydd i greu'r ensemble mwyaf o HAMLETS ifanc a welwyd erioed. Os ydych chi'n 18-25 oed, yn chwilfrydig ac yn angerddol, ymunwch â'n Hwb Hamlets ni! MANYLION Ym mis Tachwedd byddwn yn cynnal gweithdai lleol ym Mhorthaethwy (Tachwedd 2019) ac wedyn yn Rhagfyr bydd yr holl hybiau'n dod at ei gilydd yng Nghaerdydd (llety am ddim i fynychwyr o Ogledd Cymru) i rannu'r hyn maen nhw wedi bod yn ei wneud a datblygu a thrafod syniadau gyda'i gilydd. Prif nod Hamlets yw archwilio'r posibilrwydd o greu darn o theatr sy'n wirioneddol adlewyrchu'r hyn sydd gan bobl ifanc yng Nghymru i'w ddweud. YDYCH CHI'N GYMWYS? Mae Hamlets yn agored i unrhyw un rhwng 18 a 25 oed sy'n byw yng Nghymru.DYDDIAD CAUDyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 8fed o Dachwedd 2019. SUT I YMGEISIO?Mae'n syml. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw anfon neges i Mari Morgan drwy e-bost mari@franwen.com i fynegi eich diddordeb.Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag unrhyw un o'r Hybiau rhanbarthol eraill yna cysylltwch â: Y WYDDGRUG: gwennan.mair@theatrclwyd.com CASNEWYDD: georgina.harris@hotmail.com CAERDYDD: siobhanlynnbrennan@gmail.com DYDDIADAU (YM MHORTHAETWHY/FRÂN WEN) Nos Iau 21ain o Dachwedd . 5pm - 8pm Nos Iau 28ain o Dachwedd . 5 pm - 8pm Dydd Sadwrn 30ain o Dachwedd . 10am - 5pm Nos Iau 5ed o Ragfyr . 5pm - 8pm PENWYTHNOS HAMLETS CENEDLAETHOL Dydd Sadwrn 7fed - Dydd Sul 8fed o Ragfyr yng Nghaerdydd.Bydd llety yn cael ei ddarparu am ddim i fynychwyr o Ogledd Cymru.