Pay Dd6
18.11.16

Goleuadau llachar sbri yn dychwelyd i lwyfan galeri am y tro olaf

BYDD dros 60 o bobl ifanc o Wynedd, Môn a Chonwy yn dod ynghyd i berfformio sioe deulu newydd sbon yn Galeri, Caernarfon dros y Nadolig.

sbri2-2-bachYn dilyn llwyddiant Sbri yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012 a Sbri 2 yn Galeri yn 2014, mae'r criw yn dychwelyd am y tro olaf i lwyfan Galeri (19 a 20 Rhagfyr) gyda Sbri 3.Wedi ei leoli mewn ysgol uwchradd ffuglennol, mae'r sioe yn frith o ganeuon Cymraeg poblogaidd gan fandiau megis Candelas, Bandana, Geraint Jarman, Caryl Parry Jones, Y Cyrff, Yws Gwynedd a Gwenno - alawon bachog sy'n siŵr o ddeffro atgofion yr hen a'r ifanc.Mae goleuadau llachar Sbri 3 yn disgleirio ar griw o bobl ifanc sy'n ceisio trefnu parti gora'r flwyddyn."Does ond un problem – mae’r criw wedi’u diarddel o bob lleoliad gwerth chweil yn yr ardal," meddai'r awdur Beth Angell."Dyma'r cyfle ola' i ni gyfarfod cymeriadau Sbri, i brofi'r tensiynau sy'n dal i fodoli rhwng y bobl ifanc, i glywed y caneuon poblogaidd, i weld y talentau cudd yn cael eu datgelu a darganfod sut mae cariad yn gallu goresgyn gwahaniaethau."Mae'r criw yn profi, ynghanol yr anobaith, bod hi’n bosib canfod SBRI!" ychwanegodd y sgriptiwr o Gaernarfon roedd hefyd yn gyfrifol am y ddwy sgript gyntaf.Yn y sioe mae cymeriadau Rhys a Sophie yn ymuno i weddnewid yr unig westy sy’n fodlon iddynt gynnal eu parti yno ond rhwng y ffraeo, yr anobaith a’r diffyg brwdfrydedd mae’r trefnu yn profi’n fwrn.
Gethin Griffiths (chwith) yn perfformio yn Sbri 1 gyda Megan Llyn.
Gethin Griffiths (chwith) yn perfformio yn Sbri 1 gyda Megan Llyn.
Bydd y sioe yn achlysur arbennig i Gethin Griffiths, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Sbri 3, gan iddo fod yn rhan o'r sioe gyntaf yn 2012."Perfformiais yn y sioe Urdd wreiddiol yn Galeri nôl yn 2012 felly mae'n fraint mawr cael dod yn ôl i gyfarwyddo'r gerddoriaeth," meddai Gethin, 23, o Bethel."Y flwyddyn yma mae nifer o anthemau gan gynnwys Sebona Fi gan Yws Gwynedd, Anifail gan Candelas a Rhedeg i Baris gan Yr Anrhefn - a rhain wedi eu dehongli mewn ffordd newydd sbon sy'n siŵr o apelio i gynulleidfa eang," ychwanegodd Gethin sydd newydd gwblhau gradd Meistr mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor.Ceir amrywiaeth yn Sbri 3 o Merch Tŷ Cyngor gan Geraint Jarman i Chwyldro gan Gwenno, o Geiban gan Bandana i Colli Er Mwyn Ennill gan Y Cyrff."Gydd gwledd o 16 o ganeuon wedi cael eu trefnu yn arbennig ar gyfer y sioe gyda band byw o gerddorion ifanc o'r ardal a chanu mewn harmoni pedwar llais!" meddai Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen."Mae Sbri 3 yn gyfle gwych i'r teulu cyfan fwynhau sioe gerdd wreiddiol.”Mae tocynnau SBRI 3 ar werth drwy wefan Galeri neu gallwch archebu tocynnau drwy ffonio 01286 685 222.SBRI 3, GALERI CAERNARFON, 19 RHAGFYR 7pm, 20 RHAGFYR 2.30pm A 7pm.

Ymarferion

https://youtu.be/9y3mZu59tKk

Hen luniau Sbri 1 a 2

[gallery size="medium" link="none" ids="42,1297,1296,31,369,370,371,28,36,33,34,32,1299,372,22"]