A oedd gennych chi deulu neu ffrindiau yn gleifion yn yr hen Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych? Oeddech chi'n aelod o staff?
Mae criw artistig
Anweledig, y ddrama sydd wedi ei ysbrydoli gan yr hen ysbyty meddwl, yn chwilio am bobl i rannu eu straeon am y safle a gaewyd yn 1995.Yn dilyn cais gan feddygon seiciatrig ym Mangor, defnyddiodd y criw artistig gofnodion meddygol o'r hen seilam Fictorianaidd fel ysbrydoliaeth ar gyfer cynhyrchiad theatr.Chwe blynedd yn ddiweddarach, mae'r stori yma yn paratoi i deithio theatrau mwya' Cymru yng Ngwanwyn 2019."Rydym yn chwilio am straeon personol gan deuluoedd ac unigolion sydd wedi eu cyffwrdd mewn un ffordd neu llall gan yr hen ysbyty," meddai Carl Owen o Frân Wen."Y bwriad yw defnyddio'r profiadau yma fel rhan o arddangosfa fydd yn teithio ochr yn ochr â'r cynhyrchiad, a bydd yn rhoi gwell dealltwriaeth i'r cynulleidfaoedd o effeithiau ysbyty Dinbych."Yn ddiweddar mae Cyngor Sir Ddinbych wedi prynu safle Ysbyty Gogledd Cymru ar gyfer datblygiad tai newydd."Er bod Anweledig wedi ei ysbrydoli gan gofnodion meddygol, byddai'n help i gael darlun llawnach pe byddem yn clywed gan eraill sydd â phrofiadau o'r hen ysbyty meddwl," ychwanegodd Carl."Byddwn yn rhannu'r straeon hyn gyda Mirain Fflur, artist gweledol Anweledig a bydd hi yn defnyddio'r naratif fel ysbrydoliaeth ar gyfer arddangosfa fydd yncyd-deithio â’r sioe."Cynhelir yr arddangosfa a'r cynhyrchiad yn
Pontio Bangor (19 - 22 Chwefror),
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (5 - 8 Mawrth),
Theatr y Sherman yng Nghaerdydd (12-13 Mawrth),
Ffwrnes Llanelli (18 - 21 Mawrth) a
Stiwt Rhosllannerchrugog (26 - 27 Mawrth).Wedi ei ysgrifennu gan yr awdur adnabyddus Aled Jones Williams, mae Anweledig yn dilyn taith Glenda (Ffion Dafis), dynes sy’n byw gydag iselder difrifol, wrth iddi frwydro i ymdopi â salwch anweledig."Yn y ddrama bwerus a dirdynnol hon, rydym yn dilyn gofid Glenda wrth iddi fynd i'r afael â'r salwch ac wynebu bywyd y tu allan i'r ysbyty." dywedodd cyfarwyddwr y sioe, Sara Lloyd."Sut mae hi, ei theulu a’i ffrindiau yn ymdopi â realiti’r gwellhad? Oes posib dod o hyd i oleuni ym mhen draw’r twnnel?""Y nod pennaf yw rhoi llwyfan i'r salwch yma sy'n aml yn cael ei guddio."I rannu straeon am Ysbyty Gogledd Cymru, cysylltwch â
Carl.