Pay Dd6
23.09.20

Dau gynnig cyffrous i bobl ifanc

GENNYCH CHI. HEFO CHI. I CHI.Rydyn ni wedi gwirioni’n llwyr i allu cynnig dau gyfle anhygoel o arbennig i bobl ifanc dros y flwyddyn nesaf.Cyfleoedd fydd yn wir ysbrydoli’ch creadigrwydd.CYFLE 1. // 13 > 17 OED: CWMNI IFANC FRÂN WENCYFLE 2. // 18 > 25 OED: ENSEMBLE CYNHYRCHIAD NEWYDD, FAUST--------CYFLE 1. 13 > 17 OED: CWMNI IFANC FRÂN WENMae Cwmni Ifanc Frân Wen yn rhoi'r pŵer i chi greu theatr uchelgeisiol, i ddylanwadu ar ein rhaglen artistig, i herio’r hyn sy’n bosibl fel cwmni o bobl ifanc ac i fod yn sylfaen i bopeth rydan ni'n ‘neud yn Frân Wen.FEL AELOD... Byddwch yn cymryd rheolaeth o’r cwmni ac yn creu theatr uchelgeisiol sy’n dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru heddiw.Y prosiect cyntaf y byddwch chi'n mynd i'r afael ag o fydd cynhyrchiad uchelgeisiol sy’n cyfuno ‘spoken word’, cerddoriaeth a theatr mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Byddwn yn ogystal yn datblygu cynhyrchiad gwreiddiol eich hunain.PRYD A LLE...Ar hyn o bryd bydd y cwmni ifanc yn gweithio o fewn canllawiau’r llywodraeth ac yn cynnal sesiynau ar lein bob pythefnos, gyda’r gobaith o symud i fod wyneb yn wyneb yn y dyfodol agos. ADDAS I FI?Wedi gweithio ar brosiect creadigol yn y gorffennol neu beidio, mae hwn yn gyfle i chi greu newid wrth gydweithio hefo pobl ifanc amrywiol i drafod, creu a rhannu syniadau gyda’r byd.DIDDORDEB?Anfonwch baragraff, fideo, cân neu unrhyw ddull creadigol arall i post@franwen.com i esbonio pam rydych chi eisiau fod yn rhan o Gwmni Ifanc Frân Wen.Bydd hefyd angen i chi ymuno â UN o'r sesiynau blasu Zoom ar:Sesiwn Blasu 1: 07/10/20 Sesiwn Blasu 2: 08/10/20DYDDIAD CAU CWMNI IFANC FRÂN WEN: 14 Hydref 2020DMiwch Nia Hâf neu Frân Wen ar Insta Twitter, Facebook neu ebostiwch post@franwen.com am ragor o fanylion.-------------------CYFLE 2. 18 > 25 OED: ENSEMBLE CYNHYRCHIAD NEWYDD, FAUST Cyd-gynhyrchiad Frân Wen a Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â PontioDIDDORDEB BOD YN RHAN O DÎM CREADIGOL FYDD YN CREU CYNHYRCHIAD PROFFESIYNOL?Mae Frân Wen a Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Pontio, yn chwilio am 20 person ifanc rhwng 18 a 25 oed i ymuno ag ensemble ein cynhyrchiad nesaf sydd wedi'i ysbrydoli gan y clasur Almaeneg, Faust.NID ENSEMBLE ARFEROL…Bydd ensemble Faust wrth wraidd y tîm creadigol o'r diwrnod cyntaf.O'r ysgrifennu, dyfeisio, creu ac ymarfer, byddwch chi yn rhan annatod o gyflwyno'r cynhyrchiad rhyngweithiol sydd wedi ei ysbrydoli gan y chwedl glasurol Almaeneg.Rydan ni’n chwilio am unigolion sy’n barod i ddweud eu dweud, i daflu'r cwbwl mewn i'r pot, i gydweithio er mwyn creu rhywbeth anhygoel gyda'n gilydd.Bydd gofyn i chi fynychu sesiynau ac ymarferion yn ardal Pont Menai / Bangor.CYSYNIAD FAUSTBydd Faust yn dod â chymuned o gyfranogwyr ifanc ac actorion proffesiynol at ei gilydd i archwilio’r stori lle mae dyn yn gwerthu ei enaid i’r diafol wrth geisio pŵer a phrofiadau sydd yn gwthio ffiniau i’r eithafion.SUT I YMGEISIO?Anfonwch baragraff, fideo, cân neu unrhyw ddull creadigol arall i post@franwen.com i esbonio pam rydych chi eisiau fod yn rhan o ensemble Faust.Bydd gofyn i unrhyw un sydd isio bod yn rhan o dîm Faust fynychu UN o'r sesiynau blasu ar-lein:Sesiwn Blasu 1 & 2: 10/10/20 Sesiwn Blasu 3 & 4: 24/10/20DYDDIAD CAU FAUST: 26 Hydref 2020.DMiwch Nia Hâf neu Frân Wen ar Insta Twitter, Facebook neu ebostiwch post@franwen.com am ragor o fanylion.