Pay Dd6
19.11.19

Dathlu llwyddiant Llwybrau Llachar

Mae to newydd o artistiaid ifanc gydag anghenion arbennig yn cynnal dathliad cyhoeddus i arddangos eu gwaith creadigol fel rhan o gynllun newydd.

LLwybrau Llachar Fran WenWedi ei ariannu gan BBC Plant Mewn Angen, mae Llwybrau Llachar yn brosiect aml-gelfyddydol gan gwmni theatr Frân Wen sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol i gydweithio yn ddwys gydag artistiaid proffesiynol i ddatblygu eu crefft.Bydd y dathliad, sy'n cael ei gynnal yng Nghaernarfon ar Ragfyr 12fed, yn gyfle i’r artistiaid ifanc rannu’r gwaith maent wedi ei ddatblygu hyd yma.Un o'r artistiaid yw Rhodri Thompson, 18 oed o Lanberis. Mae Rhodri wedi bod yn cydweithio gyda'r cyfarwyddwr teledu Martin Thomas i ddatblygu ei sgiliau cyflwyno.Fel rhan o'r prosiect, cynhyrchodd a chyflwynodd Rhodri raglen deledu yn seiliedig ar ei hoff sioe deledu, Heno. Bydd y rhaglen gylchgrawn Nos Da, sy'n cynnwys cyfweliad gyda Dafydd Iwan, yn cael ei ddarlledu yn gyhoeddus am y tro cyntaf ar y noson.“Drwy Llwybrau Llachar dwi wedi dod i nabod mwy o bobl ac mae wedi helpu fi sylwi bod mwy o bosibiliadau am fy nghyfleodd yn y dyfodol," meddai Rhodri, sy'n ddisgybl yn Ysgol Pendalar, Caernarfon.Rhodri a RossBydd arddangosfa o waith celf gan Amber Moon, 17 oed o Nantlle, sydd wedi bod yn cydweithio gyda'r artist gweledol Elan Rhys, a gwaith animeiddio Ross Jones, 18 oed o Fangor, sy'n cael ei fentora gan gwmni digidol Galactig i’w weld ar y noson.Mae Jac Owen Clowe, 17 oed o Benygroes, wedi bod yn gweithio gyda'r cerddor Osian Williams i ddatblygu ei grefft fel drymiwr, ac mae Sophie Williams, 17 oed o Fangor a Catrin Caullcutt, 18 oed o Gaernarfon, wedi bod yn datblygu eu sgiliau dawnsio gyda'r coreograffydd Matt Gough. Bydd blas o ffrwyth llafur yr artistiaid ifanc i'w weld ar noson y dathliad."Hanfod y cynllun, sy'n rhedeg am 3 blynedd, yw rhoi cyfle i bobl ifanc wireddu eu dyheadau creadigol. Y bobl ifanc sy’n arwain ar bob penderfyniad gan gynnwys y ffurf ar gelfyddyd yr hoffent ei ddatblygu a’r artistiaid yr hoffent gydweithio â hwy," meddai Mari Morgan o Frân Wen."Nod Llwybrau Llachar yw datblygu hyder a chysylltiadau cymdeithasol y bobl ifanc tra hefyd yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o'u potensial - ein cyfrifoldeb ni fel cwmni yw cynnig pob cefnogaeth gan sicrhau awyrgylch creu diogel i sicrhau llwyddiant."Amber-a-JacMae criw o bobl ifanc Frân Wen wedi bod yn gwirfoddoli gyda’r artistiaid ifanc. Roedd Elliw Sion, 15 oed o Garmel, yn gwirfoddoli yn y sesiynau celf gydag Amber Moon."Mae fy mhrofiad fel gwirfoddolwr i Llwybrau Llachar wedi bod yn un ddisgleiriol," meddai Elliw, sy'n ddisgybl blwyddyn 10 yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes."Dysgais sut i gymryd cyfrifoldeb, sut i gyfathrebu a chydweithio gydag eraill. Ysgogodd fy hyder tuag at rywbeth gwahanol i’r arfer - mae hyn wedi fy ysbrydoli i wirfoddoli eto yn y dyfodol."Mae cyfle i bobl ifanc ymgeisio i fod yn rhan o’r prosiect drwy godi ffôn i drafod eu syniad amlinellol gyda Frân Wen – gallant weithio’n unigol neu mewn grwp. Gall y syniad fod yn sgript, cân, darn o gelf neu ffilm – beth bynnag sy’n ymateb i’w dyheadau.Am rhagor o fanylion cysylltwch â Mari Morgan drwy mari@franwen.com neu 01248 715048.