Dal i greu
Mewn cyfnod o hunan-ynysu, mae ymgysylltu â chymuned yn bwysicach nag erioed.Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn brysur yn gweithio gyda’n cymunedau, yn gwrando ac yn ymateb i anghenion ein ffrindiau hael a lliwgar.Rydym yn cydweithio gyda llawer o unigolion egnïol, positif a brwdfrydig, nifer ohonynt yn cael eu hystyried yn fregus yn y Gymru sydd ohoni. Mae wedi bod yn bleser pur i ymgysylltu gyda mwy o bobl nag erioed yn ystod yr wythnosau diwethaf a chroesawu nifer o wynebu newydd i deulu Frân Wen.Rydym yn falch iawn i rannu gwybodaeth am dri phrosiect sy’n digwydd mewn cydweithrediad gyda’n cymunedau drwy brosesau newydd ac arloesol. Gan weithio gyda thîm anhygoel o artistiaid Cymraeg, mae’r gweithgaredd yn cynnwys cynhyrchiad theatr digidol gyda chast o 35 o bobl ifanc, rhaglen datblygu greadigol ar gyfer pobl ifanc gydag anghenion ychwanegol a chydweithio unigryw gyda grwpiau o unigolion dros 65 oed.120960 fydd ein hymgais gyntaf ar greu theatr ddigidol. Wedi ei ddyfeisio gan Gwmni Ifanc Frân Wen, mae’r cynhyrchiad yn cychwyn 120960 munud ers cadarnhau’r achos gyntaf o’r coronafirws yn Wuhan, Tsieina ac yn ymateb i’r byd dros y 120960 munud yn dilyn hynny.Mae’r cwmni ifanc yn ymarfer dwywaith yr wythnos drwy blatfformau digidol er mwyn ymateb yn greadigol i fywyd fel person ifanc yng Nghymru heddiw. Beth yw’r newidiadau yn ein bywydau? Beth mae rhain yn ei olygu i ni ac ein dyfodol? Ai amser prin i gymryd stoc a gwerthfawrogi?Bydd y cwmni yn rhannu ei waith ar 19eg o Fehefin, lleoliad (digidol) ac amser i’w gadarnhau. Am y diweddaraf ynglŷn â’r prosiect dilynwch Hedydd ar Instagram a Twitter.Llwybrau Llachar yw ein prosiect i gefnogi a datblygu artistiaid newydd gydag anghenion ychwanegol.Mae’r prosiect yn rhoi cyfle i bobl ifanc gydweithio gydag artistiaid proffesiynol i ddatblygu eu creadigrwydd unigryw eu hunain. Dros y misoedd nesaf, bydd y prosiect yn sicrhau allbwn creadigol a ffocws tra’n hunan-ynysu.Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio 5 person ifanc neu 5 grŵp o bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol i fod yn rhan o ail flwyddyn y rhaglen.Fel rhan o ddatblygiad ein cartref newydd ym Mangor, mae gweithdai Nythu yn parhau gyda chymuned o bobl dros 65 oed yn yr ardal leol. Gyda gweithdai yn digwydd dros y ffôn a thrwy lythyr, mae’r gymuned yn datblygu darn o ‘sgwennu newydd yn edrych ar y gorffennol er mwyn gwneud synnwyr a dathlu’r presennol.Wrth edrych ymlaen, rydym yn y broses o gadarnhau ein rhaglen newydd fydd yn “gyfuniad o theatr gydweithiol, uchelgeisiol a beiddgar”. Mae’n teimlo’n bwysicach nag erioed i fod yn uchelgeisiol, i freuddwydio a chamu’n hyderus i’r dyfodol gyda syniadau a chymunedau.