Pay Dd6
17.12.20

Cynllunio Nyth wedi'i gymeradwyo!

Mae caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo i drawsnewid hen eglwys rhestredig gradd II ym Mangor yn ganolfan greadigol i bobl ifanc.

Mae Nyth, sef cartref newydd cwmni theatr Frân Wen, wedi derbyn cymeradwyaeth cynllunio terfynol a chaniatad adeilad rhestredig ar gyfer trawsnewid yr hen Eglwys y Santes Fair yng nghanol y ddinas.Dywedodd Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen: "Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth yn ystod y broses hon. Ein nod yw sicrhau bod eu perchnogaeth wrth wraidd ein rhaglennu a dyfodol yr adeilad - un sy'n cynnwys pobl ifanc, cymunedau, artistiaid a phobl Gogledd Orllewin Cymru."Mae'r cynlluniau'n cynnwys creu mynedfa newydd fydd yn golygu bod Nyth yn hygyrch i bawb. Bydd hefyd yn cynnwys gofod anffurfiol i berfformio ac ymarfer, stiwdio tanddaearol a gofodau creadigol ar gyfer preswyliadau artistiaid.Ar ôl ei gwblhau, bydd Nyth yn ganolbwynt creadigol lle gall pobl ifanc ac artistiaid ddatblygu eu syniadau a chreu theatr eithriadol a pherthnasol sy'n cynrychioli Gogledd Orllewin Cymru a’i rannu gyda gweddill y wlad a thu hwnt.Dywedodd Irfon Jones, cadeirydd annibynnol bwrdd Frân Wen: "Mae hwn yn gam cyffrous arall ymlaen i'r hwb newydd eithriadol yma fydd yn rhoi cyfle cyfartal i bobl ifanc gael mynediad i'r celfyddydau.""Mae'r antur o chwilio am gartref newydd wedi cymryd 5 mlynedd, a llawer o waith caled, felly mae'n hynod o braf cyrraedd y cam pwysig hwn."Mae’r cam datblygu gwreiddiol wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.Dyweddodd Sian Tomos, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Cwmni’r Fran Wen yn un gonglfeini’r theatr yng Nghymru ac ers dros dri degawd mae’n nhw wedi diddanu ac ysbrydoli miloedd o blant a phobl ifanc. Mae’n nhw hefyd wedi rhoi cyfleoedd gyrfa i nifer dirifedi, gan feithirin byddin fechan o dechnegwyr llwyfan, actorion, cynhyrchwyr ac ysgrifenwyr."Rydym yn hynod falch o gael cefnogi’r cynllun hwn sy’n dod â’r cwmni’n nes at y gymuned."Nod Frân Wen yw rhoi bywyd newydd i adeilad sydd mor bwysig i’r dreftadaeth leol a’i atgyfodi yn gartref i’r cwmni ac yn ased cymunedol gan gyfrannu tuag at adfywiad a chynnig diwylliannol yr ardal.Dywedodd cynghorydd Dinas Bangor, Luke Tugwell, sy'n cynrychioli ward Hirael lle cafodd ei fagu: "Wrth dyfu fyny roeddwn i'n chwarae ar y tir a'r strydoedd cyfagos yn ddyddiol, ac fel llawer o bobl leol mynychais nifer o ddigwyddiadau cymunedol yma trwy gydol fy mywyd. Dwi mor falch bydd y safle yn cael ei adfywio ar ôl blynyddoedd o ddiofalwch."Bydd yn gaffaeliad enfawr i ganol dinas Bangor."Disgwylir i'r cyfnod adeiladu gychwyn yng nghanol 2021.