Pay Dd6
20.11.19

Cyhoeddi penseiri Nyth

Esiampl o NythMae cynlluniau ar gyfer ein canolfan newydd sydd am "roi cyfle cyfartal i bobl ifanc gael mynediad i'r celfyddydau creadigol,” wedi cymryd cam pwysig ymlaen gyda phenodiad y penseiri Manalo & White.Bydd safle yr hen Eglwys Santes Fair ym Mangor yn cael ei drawsnewid yn hwb creadigol pwrpasol gwerth £3.2m i blant a phobl ifanc fel rhan o'r cynllun.PROSES TRYLWYRYn dilyn proses caffael manwl a thrylwyr, dywedodd y panel a ddewisodd y penseiri fod gan Manalo & White “syniadau arloesol ac ysbrydoledig” fydd yn arwain at greu adeilad “addas ar gyfer y dyfodol sy’n hygyrch a chroesawgar i bawb.”Dywedodd Brian Greathead, Cyfarwyddwr Manalo & White: “Mae'r penodiad yn anrhydedd mawr i ni ac rydym wrth ein boddau yn cael y cyfle i greu adeilad diwylliannol pwysig i Ogledd Cymru.""Rydyn ni'n gyffrous i weithio gyda Frân Wen sy'n rhannu ein huchelgais i greu canolfan newydd gynhwysol i'r gymuned. Roedd Eglwys y Santes Fair wedi gwasanaethu dinas Bangor ers canrifoedd, a bydd y cyfleusterau newydd yn rhoi bywyd newydd i'r adeilad hanesyddol.”BYWYD NEWYDD I'R HEN EGLWYSByddwn yn rhoi bywyd newydd i adeilad sy’n bwysig i’r dreftadaeth leol a’i atgyfodi yn gartref i’r cwmni. Bydd yn ased cymunedol gan gyfrannu tuag at adfywiad a chynnig diwylliannol yr ardal.Mae’r cam datblygu wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.Dywedodd Irfon Jones, cadeirydd annibynnol bwrdd Frân Wen: "Mae’r cyhoeddiad yn gam cyffrous ymlaen yng nghynlluniau'r ganolfan i bobl ifanc a fydd yn gartref i Frân Wen. Rwy’n siŵr y bydd y tîm dylunio rhagorol hwn yn cyflwyno cynlluniau eithriadol er mwynhâd a dealltwriaeth o’r celfyddydau sy’n groesawgar ac yn agored i bawb.”Manalo & White yw penseiri y Gwesty Mandrake yn Llundain, Focal Point Gallery, Matt's Gallery a Chanolfan Gelf Milton Keynes.Bydd y penseiri a ninnau nawr yn parhau i gydweithio gyda phobl ifanc a'r gymuned ehangach i ddatblygu’r cynllunio cyn cyflwyno cais cynllunio yn 2020.