Pay Dd6
09.07.18

Cyhoeddi cast Twrw Dan a Dicw

Mae Frân Wen yn falch o gyhoeddi cast Twrw Dan a Dicw, cynhyrchiad diweddara'r cwmni.

Cast Twrw Dan a DicwMae Owen Alun, sydd newydd raddio o Goleg Theatr a Pherfformio Rose Bruford yn Llundain, yn wyneb cyfarwydd yma yn Frân Wen. Mae Owen, sy'n wreiddiol o Lanfaglan ger Caernarfon, wedi cymryd rhan mewn nifer o gynyrchiadau cyfranogi gyda ni dros y blynyddoedd felly mae'n braf gweld yr artist ifanc yn cwblhau'r cylch ac ymuno â ni fel actor proffesiynol cyflogedig.Mae'r un mor gyffrous croesawu Rhianna Loren drwy ddrysau Frân Wen. Wedi graddio mewn Theatr a Drama o Brifysgol De Cymru, mae'r actor o Hengoed yng Nghwm Rhymni yn ymuno â ni am y tro cyntaf ar gyfer ein cynhyrchiad Gaeaf 2018.Manon Steffan Ros sydd wedi ysgrifennu’r sgript newydd ac Elgan Rhys fydd yn cyfarwyddo.Mae Twrw Dan a Dicw yn teithio o amgylch ysgolion Gogledd Cymru rhwng 5 Tachwedd a 14 Rhagfyr.