Pay Dd6
07.08.19

Cyhoeddi cast Llyfr Glas Nebo

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r cast llawn ar gyfer ein haddasiad llwyfan o'r ffenomenon lenyddol, Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros.



Cast Llyfr Glas NeboMae'r ddrama yn adrodd stori anhygoel Siôn, ei fam Rowenna a'i chwaer ifanc, Dwynwen, wrth iddynt geisio goroesi mewn byd ôl-apocalyptaidd.Yn ymuno â Frân Wen am y tro cyntaf mae Tara Bethan fydd yn chwarae rhan Rowenna, ac Eben James fydd yn chwarae rhan Siôn.Llŷr Edwards, Leah Gaffey a Cêt Haf sy'n ymuno â nhw yn y cast ensemble.Yn ddramodydd profiadol yn ogystal ag awdur, Manon Steffan Ros fydd yn gyfrifol am addasu'r nofel i'r llwyfan, gydag Elgan Rhys yn cymryd yr awennau cyfarwyddo.Bydd Llyfr Glas Nebo yn teithio o amgylch theatrau Cymru rhwng 31 Ionawr a 6 Mawrth 2020.