Pay Dd6
05.08.17

Criw amryliw ar orymdaith Steddfodol dra wahanol

Screen Shot 2017-08-04 at 15.33.45MAE criw amryliw o gymeriadau yn paratoi ar gyfer gorymdaith dra wahanol i ddathlu llais pobl ifanc ym mhob agwedd a chornel o’r Eisteddfod Genedlaethol eleni.Sbectol Haul yw enw'r daith carnifalaidd (dydd Iau 10 Awst a dydd Gwener 11 Awst) sy'n cychwyn ym Maes B cyn gorymdeithio drwy prif faes yr Eisteddfod ym Modedern, Ynys Môn.Mae'r cast ifanc sy'n rhan o gynllun cyfranogi pobl ifanc y cwmni theatr Frân Wen."Mudiad 'di Sbectol Haul sydd wedi ffurfio i ymfalchïo mewn amrywiaeth o leisiau, safbwyntiau, rhywioldeb a gwleidyddiaeth,” meddai Nia Haf sy’n aelod o gast Sbectol Haul.“‘Da ni’n gweld y byd trwy sbectol haul nid er mwyn cael ein dallu gan argyfyngau’r blaned, ond yn hytrach i chwilio am atebion positif a heddychlon.“Mae o’n cyd-fynd â phenblwydd Maes B yn 20 oed felly mae’n grêt bo’ ni’n gallu cychwyn y daith yn fanno cyn i ni wau trwy draffig y prif faes – fydd hi’n antur theatrig drawiad fydd yn siwr o ddal sylw,” ychwanegodd Nia.Mae'r cerddor Gruff Ab Arwel a'r gwneuthurwr ffilm Yannick Hammer wedi gweithio gyda'r cast i greu trac a fideo, ac mae'r darlunydd Mathew Williams wedi creu cymeriadau unigol i bob aelod.https://youtu.be/ORxMon57bcUO fireinio eu sgiliau syrcas gyda chwmni Syrcas Cimera i ddawnsio gyda'r coreograffydd Cêt Haf, mae'r bobl ifanc wedi cael ystod eang o brofiadau yn yr ymarferion."Maent wedi gweithio gydag artistiaid proffesiynol dros 6 wythnos i greu perfformiad newydd gwreiddiol sy'n cyfuno cerddoriaeth, theatr a chelf," meddai Mari Morgan, Mentor Arloesedd Creadigol Frân Wen, sy'n gyfrifol am gydlynu'r perfformiad.Ychwanegodd Mari: ''Mae'r tîm ifanc wedi dangos aeddfedrwydd ym mhob agwedd o'u gwaith - o ddelio gyda materion sensitif iawn i ddyfeisio a chreu perfformiadau hynod o bwerus. Bydd Sbectol Haul werth ei weld, ac yn amhosib i anwybyddu.”
PERFFORMIADAUDydd Iau, 10 Awst 2017: 4.30pm yn Maes B ac yn gorffen ar faes yr Eisteddfod am 5.30pmDydd Gwener, 11 Awst 2017: 3.30pm yn Maes B ac yn gorffen ar faes yr Eisteddfod am 4.30pm[caption id="attachment_3204" align="alignleft" width="219"]Map Sbectol Haul Llwybr perfformio Sbectol Haul yn Eisteddfod dydd Iau a dydd Gwener[/caption]
CYMERIADAU SBECTOL HAUL[Best_Wordpress_Gallery id="4" gal_title="Cymeriadau Sbectol Haul"]SBECTOL HAUL Gwion Tudur, Rebecca Williams, Gwenllian Griffiths, Ffion Richardson, Elliw Siân, Alys Fflur Williams, Carwyn Healy, Lowri Angharad Green, Gwion Morris Jones, Leisa Gwenllian, Cai Tomos Lewis, Ifan Gwilym Pritchard, Ffiôn Ceri Owen, Anna Wyn Jones, Niall Grant-Rowlands, Heledd Prys Huws, Ellen Jones-Davies, Luned Bedwyr, Ela Vaughan Roberts, Alys Fflur Letton-Jones, Erin Rhys Williams, Non Gwenllian Jones, Kyle Howard, Lowri Kate Jones + Nia Hâf.ARTISTIAID Iwan Fôn (actor + cyfarwyddwr), Elgan Rhys (actor + awdur), Yannick Hammer (ffilm), Ruth Williams (gwisgoedd), Cêt Haf (coreograffi), Gruff Ab Arwel (cerddor), Mari Morgan (Frân Wen), Mathew Williams (darlunydd), Syrcas Cimera.