Pay Dd6
28.09.17

Catrin yn dychwelyd i'r Bala

MAE'R actor Catrin Mara yn dychwelyd i'w chynefin fis Hydref yma ar gyfer drama newydd sy'n adrodd stori wir merch ifanc o Bwllheli sy'n brwydro canser.CatrinMaraBydd Catrin, a aned yn Llanuwchllyn ger Y Bala, yn perfformio yn Neuadd Buddug gyda Mwgsi, cynhyrchiad theatr sy'n seiliedig ar flog ar-lein didwyll Megan Davies wrth iddi gofnodi ei brwydr gyda'r afiechyd.Ym Mehefin 2015 fe newidiodd bywyd Megan am byth pan cafodd wybod ei bod yn dioddef o Hodgkin Lymphoma, math o ganser.Roedd y ferch ddeunaw oed yn mwynhau cymdeithasu efo'i ffrindiau fel unrhyw ferch arall o'r un oed ac ar fin gorffen ei blwyddyn olaf yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.Dwy flynedd yn ddiweddarach, gyda Megan bellach wedi goroesi’r driniaeth ac yn rhydd o gancr, mae ei stori wedi ei addasu i'r theatr gan Frân Wen.IMG_9498Mae Catrin, sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon, yn edrych ymlaen i berfformio yn Y Bala: "Dwi heb berfformio yn Neuadd Buddug ers ro'n i'n coleg felly dwi'n edrych 'mlaen i fynd yn ôl i berfformio i gynulleidfa fy ardal."Mae gen i lot o atgofion melys o eistedd yn gwylio ffilmiau efo fy ffrindiau yn Neuadd Buddug - roedd pobl yn smocio yno ac roedd toriad hanner amser i nôl hufen iâ. Dyddiau da."Yn ymuno a Catrin ar y llwyfan bydd yr actorion Mirain Fflur a Ceri Elen, gyda'r cyfarwyddwr Iola Ynyr o Frân Wen yn clymu'r sioe at ei gilydd. Mae hi'n addo "drama creulon o onest ond llawn hiwmor tywyll."Mae Mwgsi wedi ei sgwennu gan yr awdur a dramodydd Manon Steffan Ros.Mwgsi Neuadd Buddug, Y Bala Dydd Mercher, 25 Hydref, 7.30pm 01758 704088