Pay Dd6
10.06.20

Cast ifanc yn ail-ddehongli amser

Cynhyrchiad theatr newydd wedi'i greu a'i berfformio gan gast o 30 o bobl ifanc yn archwilio sut mae trefn a chyfathrebu wedi newid ers y cyfnod hunan-ynysu yng Nghymru.

**YN FYW, 7pm NOS WENER 19 MEHEFIN**Bydd y perfformiad yn fyw ar y fideo isod am 7pm:https://youtu.be/GRYGONqrPWoYng nghysgod covid-19, mae 120960 wedi'i ddatblygu gan bobl ifanc gan ddefnyddio eu lleisiau i ddatgelu sut mae'r argyfwng wedi effeithio ar eu bywydau, yn enwedig yr angen i gysylltu ag eraill a darganfod ffyrdd newydd o wneud hynny."Oherwydd bod y cast wedi datblygu’r cynhyrchiad yn ystod y cyfnod yma, rydym wedi bod yn dyst i’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, yr ymostyngol a'r rhwystredigaeth o hunan-ynysu," meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen."Roedd ein ymarfer cyntaf yn union 120960 munud ar ôl cadarnhau'r achos cyntaf yn Wuhan, a bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio union 120960 munud o'r pwynt hwnnw. Mae'n gipolwg go iawn ar sut mae amser wedi effeithio ar bob un ohonom yn ystod y cyfnod rhyfeddol yma yn ein bywydau," ychwanegodd Gethin."Mae'r hunan-ynysu diweddar wedi ailddiffinio ystyr amser i bawb - mae ein bywydau wedi'u hadeiladu o amgylch strwythur a threfn ac mae chwalu hynny wedi gwneud i ni gwestiynu ein perthynas ag amser."Bydd y perfformiad yn cael ei ffrydio'n fyw ar sianel YouTube Frân Wen a'r app AM ar Fehefin 19 am 7pm.[gallery size="medium" columns="2" ids="4773,4774,4775,4764,4763,4762,4761,4760"]Lluniau ymarferion gan Kristina Banholzer.Un aelod o'r cast yw Owain Sion, 15 o Lanfairpwll: "Mewn byd ble mae pobl yn sydyn iawn i basio barn ar ein cenhedlaeth ni - mae'n amser i chi glywed ein hochr ni o'r ddadl.""Mae 120960 yn fewnwelediad gonest i brofiadau pobl ifanc Cymru yn ystod yr argyfwng Covid-19 - ar lefel bersonol ac fel cenhedlaeth. Rydym eisiau dangos yr ochrau digri a gwirion o'r cyfnod yma - golygfeydd y bydd pawb yn gyfarwydd â nhw.“Byddem hefyd yn troedio'r teimladau nad ydym yn gyfarwydd â nhw, y pethau sydd yn ein cael ni i lawr yn ystod lockdown. Gyda'r ddau begwn yma'n cwrdd, gall y gynulleidfa ddisgwyl gwledd o emosiynau, meddyliau a... bîns?"Dan arweiniad a chyfarwyddyd Gethin Evans, mae’r Cwmni Ifanc hefyd yn cydweithio gyda'r artistiaid Mari Morgan, Hanna Jarman, Nico Dafydd, Hanna Lynn Hughes ac Endaf Roberts."Rydym yn cydweithio gyda'r Cwmni Ifanc i greu strwythur dramatig i 120906," medda'r sgwennwr a dramtwrg Hanna Jarman."Ni'n ceisio eu hysbrydoli a'u hannog i fod yn fwy hyderus yn eu gwaith. O dan yr amgylchiadau rhyfedd ac anghyfarwydd hyn, mae'r gwaith maen nhw'n ei gynhyrchu yn wych - ac rydw i'n gyffrous iawn gweld ffrwyth eu llafur yn dod yn fyw ar y sgrin."Mae'r cynhyrchiad, sy'n gyfuniad o theatr byw a gosodiadau celf drwy fideo, yn cael ei gynhyrchu gan Gwmni Ifanc Frân Wen. Mae’r cwmni yn creu theatr amlddisgyblaethol sy’n dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru heddiw.Ychwanegodd Gethin: "Yn ein Cwmni Ifanc mae pawb, beth bynnag fo'u cefndir, yn cael eu derbyn a'u croesawu. Rydyn ni'n dangos i bobl ifanc bod eu llais yn wirioneddol bwysig."FRANWEN.COM/120960