This is the final public testing site of our new website. Let us know what you think!

FRANWEN315
28.02.19

Antur Anweledig

Gwaith celf gwreiddiol Mirain Fflur are gyfer datblygiad Anweledig.Yn 2012 derbyniodd Frân Wen wahoddiad gan yr Athro David Healy, Seiciatrydd nodedig yn ei faes, i drafod gwaith ymchwil oedd yn dogfennu profiadau cleifion iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru o ganol yr 19eg ganrif hyd at gychwyn yr 20fed ganrif.Gobaith yr Athro David Healy oedd i’r gwaith ymchwil hwyluso gweithgaredd celfyddydol fyddai yn y pen draw yn herio’r stigma cymdeithasol sydd ynghlwm â salwch iechyd meddwl gan edrych ar brofiadau hanesyddol yng nghyd-destun y presennol. Dyma gychwyn taith ‘Anweledig’.Anweledig. Gwaith celf Mirain Fflur 2014.Cam cyntaf y broses greadigol oedd comisiynu Aled Jones Williams. Roedd yn ddewis naturiol oherwydd ei barodrwydd a’i ddewrder i dreiddio i feysydd tywyll gyda sensitifrwydd ac, yn aml, hiwmor. Mae ei allu i drin geiriau a’i ddefnydd trawiadol o ddelweddau theatrig yn ysgwyd y gynulleidfa ac yn creu cynyrchiadau ysgytwol. Rhoddwyd rhyddid i Aled ddehongli’r gwaith ymchwil yn ei ffordd ei hun yn hytrach nag ail-greu cofnodion hanesyddol yn slafaidd.Anweledig: Rhan 1. Llun gan Keith Morris.Rhannwyd y rhan cyntaf o’r fonolog yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych a’r Cyffiniau yn 2013 (gweler llun uchod), ac yn dilyn ymateb ysgubol i berfformiadau ysgytwol Ffion Dafis, aeth y monolog ar daith fer o Gymru i ymweld â lleoliadau clyd fel orielau celf ac amgueddfeydd. Datblygwyd y gwaith ymhellach drwy gomisiynu ail ran. Cafwyd cyfle i rannu’r sgript lawn mewn dehongliad unigryw yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018."Mae wedi bod yn fraint rhannu datblygiad y cynhyrchiad gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Heb os, mae’r ymateb gonest a didwyll iddi wedi dylanwadu’n sylweddol at Y broses o greu’r cyfanwaith terfynol," meddai Nia Jones, Rheolwr Gweithredu Frân Wen.Bachwch gyfle i weld cyfanwaith Aled Jones Williams yn y lleoliadau yma drwy mis Mawrth:DYDDIADAU TAITH ANWELEDIGCanolfan Celfyddydau Aberystwyth 05.03.19 - 08.03.19Sherman Theatre, Cardiff 12.03.19 & 13.03.19Theatr y Ffwrnes Llanelli 18.03.19 - 21.03.19Stiwt Rhosllanerchrugog 26.03.19 - 27.03.19