Gyda dros 60 o bobl ifanc yn barod i ddod ynghyd i berfformio yn Sbri 3, dim ond un aelod o'r cast sydd wedi perfformio ym mhob un.
Mae Malan Fon, sy'n chwarae rhan Angie yn y sioe gerdd, wedi perfformio ym mhob Sbri (Sbri yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eryri 2012 a Sbri 2 yn Galeri yn 2014).Wrth i'r goleuadau baratoi i ddisgleirio am y tro olaf, mae'r disgybl lefel A o Gaernarfon yn edrych 'mlaen:
Nes i fwynhau Sbri 1 yn ofnadwy! Dwi'n cofio'r teimlad o undod oedd yno ar ddiwedd pob perfformiad, ac yn yr ymarferiadau, yn union fel Sbri 2 a 3. Penderfynais drio am ddarn oherwydd bo' fi'n hoff iawn o ganu ac actio, 'llu oedd Sbri'n swnio fel rhywbath perffaith i fod yn rhan o!Dwi'n mwynhau gallu canu caneuon diweddar, adnabyddus, mewn ffordd gwahanol - a'r teimlad o ryddhad unwaith mae'r perfformiad drosodd a bod pob dim 'di mynd yn oce! Mae'r ymarferiadau a chlywed y gosodiadau gwahanol i rai o fy hoff ganeuon wedi yn wych! Dwi hefyd 'di mwynhau dysgu'r dawnsio, er bo yna eitha' lot o adegau pan dw i rili heb ddeall y 'moves' - dwi byth yn dawnsio!Buaswn i yn argymell y math yma o beth i unrhyw un sydd efo diddordeb mewn performio neu gweithio ym myd theatr (mae'r tîm technegol yn cynnwys pobl ifanc). Mae'n 'class' gweld yr amrywiaeth eang o dalentau sydd yng nghast Sbri 3.Dwi'n cael perfformio ar lwyfan efo rhai o fy ffrindiau gora am y trydydd tro a dwi'n edrych ymlaen i allu dweud bo fi di bod yn rhan o Sbri reit o'r cychwyn at y diwedd un!
Sbri 3, 19 & 20 Rhagfyr 2016, Galeri Caernarfon