Typewriter
04.06.21

Sgwennu newydd ar ein sgrîns am y tro cyntaf

Bydd saith ffilm fer gan ddramodwyr newydd yn cael eu dangos am y tro cyntaf ym mis Mehefin fel rhan o bartneriaeth rhwng Frân Wen, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru.


Dyma’r tro cyntaf i waith gael ei rannu o raglen Sgwennu Newydd Frân Wen sy’n cefnogi dramodwyr newydd yn yr iaith Gymraeg.

Bydd y ffilmiau'n cael eu darlledu bob noson rhwng y 9fed a'r 11eg o Fehefin ar y platfform fideo AM.

------------

Y saith ffilm fer yw:

Rhywbeth Glas gan Lowri Morgan

Dwy ffrind sydd wedi bod yn agos ers erioed - ond mae petha' yn dechrau newid pan mae’r ddwy yn sylweddoli bod beth sydd rhyngddyn nhw yn fwy na chyfeillgarwch.

Darn sy’n ymchwilio i mewn i emosiynau merched ifanc hoyw yn trio goroesi ei harddegau a’r brifysgol. Gwelwn yr ups a’r downs o’r berthynas, tra bod y ddwy yn ceisio darganfod ei hunan a thyrchu mewn i beth yn union sydd yn mynd ymlaen rhyngddyn nhw?

Tŷ Bach Twt gan Mared Llywelyn

Drwy ffenest y cwt lan môr efo'r gorwel glas o flaen eich llygaid chewch chi ddim golygfa fawr well. Ond pwy fedra fyw ar olygfeydd?

Ym merw’r argyfwng ail gartrefi mae merch leol yn ystyried bregusrwydd ei chymuned, a’i dyfodol ei hun yn y gymuned honno.

Stori’r Cennin gan Joseff Owen

Mae un wedi rhoi cyfle i’r llall ddweud ei ddweud, ond mae yna gymaint i’w ddweud a cyn lleied o amser i’w ddweud o. Lle ti’n cychwyn? Yn enwedig os ti ‘di cael oesoedd i baratoi a dwyt ti ddim yn hollol siŵr os oes unrhyw un yn gwrando. Mae B wedi clywed o’i gyd o’r blaen, mae stori A dros y siop, ac mae yna gymaint o gwestiynau angen eu gofyn. Y cwestiwn mwyaf un ydi hyn:

Sut wyt ti’n perswadio pawb i gredu dy fod di’n genhinen?

Blind Date gan Ciaran Fitzgerald

Mae Sioned yn feistr ar ‘online dating’ - y fforwm perffaith iddi guddio y tu ôl i'w phersona ffug. Mae Sioned yn gwybod be’ mae hi eisiau, ac mae ‘da hi’r sgiliau i fachu’r bachgen delfrydol, ond mae hi’n dal rhywbeth yn ôl – y ffaith fod hi’n ddall.

Pan mae Sioned yn cael ei pharu gyda'r bachgen perffaith mae rhaid iddi hi benderfynu rhwng dweud y gwir neu barhau i fod yn berson mae hi’n gwybod dydy hi ddim.

Yorci gan Ifan Pritchard

*Gola’ on. Gwên ymlaen. Cnesu llais. Camra ‘mlaen. Gola’ coch.*

Yn fyw o’i stiwdio, ma’ Yorci’n cyflwyno ei fyd i’w bobl.

Ymysg ei unigrwydd ma’ dyn ifanc yn cael blasu cydnabyddiaeth am y tro cynta’.

Trwy ddarlledu ei fywyd, mae Yorci yn derbyn cysur, ond daw rwbath i amharu ar ei fyd… cynulleidfa.

Heddiw mae Yorci’n cael teimlo sut beth ydi sylw am y tro cynta', ac yn lwcus iawn, da ni’n gal bod yn rhan o hynny… EXCITING!

Dilynwch Yorci, y Jack Of All One Man Bands, a’i sioe lawn comedi, cerddoriaeth a chwant go unigryw at Johnny Cash.

*Deud ta ta. Camra off. Duwch*

Dŵr Dwfn gan Nia Morais

Mae Josie a Laura yn chwiorydd agos. Dros y blynyddoedd mae’r ddwy wedi bod yn sownd i'w gilydd ond yn ddiweddar, mae Laura wedi dechrau drifftio i ffwrdd. Allan o unman mae gan Laura gariad newydd - bachgen dirgel o'r enw Imrie.

Ond o ble ddaeth Imrie? Pam mae ei gysylltiad â'r môr mor gryf? A all Josie wneud unrhyw beth i atal ei chwaer rhag ddrifftio i ffwrdd?

Hollol Wych gan Iwan Davies

Wedi'r pandemic, daeth y milwyr. Bu gwrthryfel, wrth gwrs, ond buan iawn y goresgynnwyd y wlad gan luoedd yr Arlywydd Johnson. Chwe mis o ryfel guerilla, cyn arwyddo Cyfaddawd Casnewydd yn 2023, gan gadarnhau safle Cymru tu fewn i Brydain Newydd - gan waredu S4/C, Radio Cymru a'r wasg, a chyfyngu'r iaith Gymraeg i brifysgolion ac amgueddfeydd yn unig.

Ond, bob nos, mewn gwahanol leoliad, mae'r gwrthdystio'n parhau, a hynny trwy ddarllediad tanddaearol o'r rhaglen nosweithiol 'Diwedd y Dydd'. Dan y fath amgylchiadau, sut ydyn ni'n penderfynu adrodd ein stori ni?

*Bydd y fideos yn cael ei darleddu bob noson rhwng 09.06.21 a 11.06.21 ar www.amam.cymru*