Pay Dd6
25.11.13

Profiad Gwaith yn Frân Wen

ImageDatblygiad ‘Dim Diolch’ o safbwynt Anna Wyn Jones, myfyriwr profiad gwaith ac aelod o BRAINMi ddarllenais i un o ddrafftiau cyntaf y sgript yn ystod fy mhrofiad gwaith ac mi wnes ei fwynhau yn fawr, roedd cymeriad George Price yn dod yn fyw. Roeddwn yn hoff iawn o’r olygfa ble mae’n siarad â’i gyfaill ynglŷn ar ferch mae’n hoff ohoni. Yma gwelwn ochr ‘normal’ i George le mae’n ymddwyn fel dyn ifanc sydd mewn cariad a merch brydferth. Mae hyn yn gwneud i’w newid personoliaeth yn nes ymlaen yn y ddrama ddod yn fwy annisgwyl. Mae’n troi allan i fod yn eithaf gwahanol i’r bachgen ‘normal’ yma. Mae pethau yn dod yn obsesiwn ganddo ac mae’n gwthio ei wraig a’i blant i ffwrdd, rhywbeth annisgwyl o’i weld yn mwynhau bywyd cymaint yn y dechrau.Ar ôl darllen y drafft nesaf sylwais ar y gwelliannau yn syth, y peth mwyaf a dynnodd fy sylw oedd y pentwr o lyfrau a fyddai George yn cario yn cynyddu wrth i’r pwysau arno gynyddu. Roedd hwn yn symbolaeth glyfar iawn a fyddai’n dangos yn raddol sut y byddai yn newid o fod yn fachgen hapus nad oedd yn gorfod poeni am lawer i fod yn ddyn a fyddai’n cyflawni hunanladdiad.Pan welais olygfa o’r cynhyrchiad roedd yn bleser gweld y set a’r cymeriadau wedi dod yn fyw. Credaf fod y syniad o ‘filing cabinets’ i greu’r set yn glyfar iawn, roedd bron fel gweld beth oedd yn mynd ymlaen yn ei feddwl - ymennydd yn gorlifo efo gwybodaeth, syniadau ac emosiynau. Wrth ddarllen y sgript roeddwn i’n gallu dychmygu set a oedd yn llawn o ddodrefn tywyll a phapurau dros bob man a dyna yn union fel mae’r set yn edrych. Mae’r cynhyrchiad wedi datblygu cryn dipyn o fod yn ddrafft cyntaf i fod ar fin cael ei berfformio o flaen cynulleidfa. Mae’r cymeriadau wedi dod yn fyw a chredaf fod yn actorion wedi eu dehongli yn dda o’r ychydig a welais yn un o’r wythnosau ymarfer. Mae’n braf gweld yr holl beth yn dod yn fyw a cymaint mae wedi datblygu ers y drafftiau o’r sgript a ddarllenais.