Pay Dd6
01.02.16

Llŷr ar ennill Dramodydd Gorau yn y Gymraeg

LlyrTitus.CanolLlongyfarchiadau mawr i Llŷr Titus ar ennill Dramodydd Gorau yn y Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016 am y ddrama Drych.Pleser mawr oedd cael cynhyrchu Drych oherwydd roedd Llŷr yn rhan o Sgript i Lwyfan sef cynllun datblygu ‘sgwennwyr ifanc y cwmni - enghraifft berffaith o'r ffordd mae Frân Wen yn annog a meithrin artistiaid creadigol ifanc a thalentog.Meddai Llŷr, 22, sy'n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd: “Rwyf wrth fy modd ac yn hynod falch i ennill y wobr hon, mae'n anrhydedd mawr cael bod ymhlith talent o'r fath!"Hoffwn ddiolch i Frân Wen am roi eu ffydd mewn dramodydd ifanc fel fi, a hefyd i'r cast a'r criw talentog a drosglwyddodd fy ngeiriau i'r llwyfan."Meddai Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen: “Mae Frân Wen yn rhoi pobl ifanc wrth wraidd popeth a felly 'da ni'n hynod o falch gweld Llŷr, sydd wedi dod drwy gynllun Sgript i Lwyfan y cwmni, yn ennill y wobr hon."[gallery ids="2063,2062,2061,2060,2059,2058,2057,2056,2055,2054,2053,2052,2051,2050,2049"]