Pay Dd6
31.07.18

Frân Wen yn Steddfod Caerdydd

Steddfod 2018Mae gennym ni’n wythnos llawn o ddigwyddiadau a pherfformiadau cyffrous fel rhan o'r Pentref Drama yn Eisteddfod Gaerdydd eleni.Un o uchafbwyntiau’r ŵyl ym Mae Caerdydd fydd ail bennod Anweledig, drama afaelgar Aled Jones Williams sy'n cael ei pherfformio yn nyfnderoedd selar y Neuadd Ddawns yn Nhŷ Portland bob noson o nos Lun i nos Wener.Ar y dydd Sadwrn ola', fel rhan o arlwy Mas ar y Maes, bydd darlleniad o ddrama newydd gan Gwïon Morris Jones yn Theatr y Maes (yng Nghanolfan Mileniwm). Mae Gwïon yn un o artistiaid o gynllun datblygu artistiaid Frân Wen, EGiN.Ymhlith y digwyddiadau eraill mae cyfres o weithgareddau am ddim yng Nghaffi'r Theatrau (Caffi Sïo) ar gyfer pobl ifanc o bob oed. Dewch i ddweud helo!

AMSERLEN


NEUADD DDAWNS (Tŷ Portland, Stryd Biwt) Nos Lun i nos Wener 8yh – 9yhANWELEDIG Ymunwch â ni yn nyfnderoedd selar y Neuadd Ddawns yn Nhŷ Portland ar gyfer yr ail bennod yn nrama afaelgar Aled Jones Williams. Mae stori gignoeth a dirdynnol Anweledig yn dilyn taith Glenda (Ffion Dafis), gwraig sy’n dioddef o iselder difrifol.Cost: £10 (bydd angen prynnu tocyn oherwydd nid yw’r ddrama hon yn ddilys gyda’r bandiau garddwrn)
THEATR Y MAES Dydd Sadwrn 3.30yh - 4yhCYRAINTS DUON Darlleniad o ddrama newydd gan Gwion Morris Jones; un o artistiaid o gynllun datblygu artistiaid Frân Wen, EGiN.Cast: Meilir Rhys Williams, Carwyn Jones Cyfarwyddwr: Elgan Rhys
GWEITHGAREDAU CAFFI’R THEATRAU @ Caffi Sïo [ Sesiynau agored I GYD AM DDIM ]Dydd Llun 3yh - 4yh AMSER CHWARAE! I blant o dan 7 oed Dewch i greu cymeriadau brigau gyda chriw Frân Wen a dysgu mwy am chyfeillgarwch a chwarae drwy Twrw Dan a Dicw!Dydd Mawrth 2yh - 3yh CREU HAUL EICH HUN I blant 8 - 12 oed Dewch i greu eich haul eich hun! Sesiwn yn seiliedig ar Fi Di Fi, cynllun arloesol Frân Wen sy’n hybu’r defnydd o’r celfyddydau i helpu gwarchod hunan-lês.Dydd Mercher 3:30yh - 4:30yh CREU RHYWBETH I ROI I bobl ifanc 12+ Sesiwn creu cerdyn unigryw ac arbennig i chi’ch hunain neu berson arall. Sesiwn yn seiliedig ar Fi Di Fi, cynllun arloesol Frân Wen sy’n hybu’r defnydd o’r celfyddydau i helpu gwarchod hunan-lês.Dydd Iau 1yh - 2yh #2018 OES GYDA CHI SYNIAD? I bobl ifanc 18 – 30 oed Oes ‘gynnoch chi syniad am ddigwyddiad creadigol yn cuddio mewn drôr? Dewch draw i wybod mwy am #2018, ein prosiect cyffrous newydd - ar gyfer rhai sydd â syniadau mawr!Dydd Gwener 4yh - 5yh SGRIPT I LWYFAN I bobl ifanc oed 16 – 25 Cyfle i ‘sgwennwyr a chyfarwyddwyr y dyfodol ddysgu mwy am gynllun Sgript i Lwyfan Frân Wen.