Pay Dd6
11.07.14

Frân Wen a'r Pentref Drama Steddfod

Mae Cwmni'r Frân Wen yn mynd i fod yn rhan o'r Pentref Drama yn Steddfod Llanelli eleni. 20140711-201915-73155979.jpg Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod greu ardal arbennig ar gyfer y gweithgareddau drama a dyma fydd cartref y Cwt Drama, Caffi’r Theatrau a’r Theatr.Theatr Genedlaethol Cymru yw prif noddwr y Pentref Drama, ac fe fydd amrywiaeth o ddigwyddiadau ar hyd yr wythnos yn amrywio o ddarlleniadau anffurfiol, cystadlaethau, perfformiadau a sgyrsiau.Ein hen ffrind Gwyn Eiddior fydd yn cynllunio ardal y Pentref Drama.Mae’r Cwt Drama yn cynnig lleoliad newydd ar gyfer perfformiadau ar y Maes, gan adeiladu ar lwyddiant y Theatr a Chaffi’r Theatrau dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd rhaglen y Cwt Drama yn cynnwys ffrydiad byw o ‘Dim Diolch!’ gan Gwmni’r Frân Wen o Ŵyl Ymylol Caeredin.Bydd perfformiadau hefyd o Dŵr Mawr Dyfn, gwaith buddugol y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2013, gan Glesni Haf Jones ac wedi’i gyfarwyddo gan Sara Lloyd, Cyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru. Bydd Dŵr Mawr Dyfn yn cael ei gynhyrchu ar y cyd rhwng Sherman Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol. Dyma’r tro cyntaf i berfformiad o Ddrama Fuddigol custadleuaeth y Fedal Ddrama gael ei gyflwyno ar y Maes. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys darlleniadau o weithau mewn datblygiad gan Mari Emlyn, Sera Moore Williams a Geraint Lewis, perfformiadau gan Theatr Bara Caws a Chwmni Theatr 3D, Arddangosfa Cof Sir Gâr, a llawer mwy.Ceir manylion llawn rhaglen y Pentref Drama ar wefan yr Eisteddfod; www.eisteddfod.org