Pay Dd6
18.11.15

Criw Dilyn Fi yn glanio ym Môn

Dilyn Fi Day 1Wrth i daith Saer y Sêr gyrraedd Theatr Felinfach mae criw o artistiaid wedi glanio yma ym Mhorthaethwy i ddechrau gweithio ar ein cynhyrchiad nesaf.Sioe i blant oed meithrin yw Dilyn Fi fydd yn teithio yng Ngwanwyn 2016 - gwyliwch allan am lwyfan llawn hwyl, sbri ac eliffantod!Yn y llun uchod mae Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen, yn croesawu'r awdur Sarah Argent a'r actorion Cêt Haf, Elgan Rhys.Cofiwch ddilyn anturiaethau'r criw dros' yr wythnosau nesaf ar ein sianeli digidol.