Pay Dd6
06.08.19

Cartref newydd Frân Wen

Canolfan newydd am "roi cyfle cyfartal i bobl ifanc gael mynediad i'r celfyddydau creadigol i'w hysbrydoli i ffynnu a chyrraedd eu potensial.”

Rydym yn falch o gyhoeddi cynlluniau i greu hwb creadigol pwrpasol gwerth £3.2m i blant a phobl ifanc ym Mangor.Wedi ei leoli yn Eglwys Santes Fair gynt, ar Ffordd Garth, bydd ein cartref newydd, a fydd yn cael ei enwi yn “Nyth”, yn cynnwys gofodau ar gyfer ymarferion, gweithdai a pherfformiadau ar raddfa fechan ar gyfer amrywiaeth o brosiectau creadigol.Rydym yn gobeithio rhoi bywyd newydd i adeilad sydd mor bwysig i’r dreftadaeth leol a’i atgyfodi yn gartref i’r cwmni ac yn ased cymunedol gan gyfrannu tuag at adfywiad a chynnig diwylliannol yr ardal.Dywedodd Irfon Jones, cadeirydd ein bwrdd annibynnol, ei fod am i'r celfyddydau i bobl ifanc fod yn "fwy hygyrch a pherthnasol" wrth iddo rannu cynlluniau ar gyfer y datblygiad newydd."Mae cysyniad Nyth yn seiliedig ar gydweithio a bydd yn galluogi Frân Wen i ffynnu’n artistig a datblygu partneriaethau newydd er mwyn hyrwyddo grym trawsnewidiol y celfyddydau mewn meysydd yn cynnwys iechyd a lles a dysgu creadigol."I rheini sydd ddim yn nabod Frân Wen, sefydlwyd y cwmni ym 1984 ac rydym yn darparu rhaglen gyfranogol a chynyrchiadau theatr drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt. Bydd y cartref newydd yn leoliad canolog a hwylus i bobl ifanc ar draws y Gogledd Orllewin."Mae'r celfyddydau yn rhan hanfodol o gyfansoddiad a bywiogrwydd ein cymunedau ac ar adeg pan fo gofodau a chyfleon i bobl ifanc yn arbennig yn brin, rydym am greu hafan diogel i’w meithrin a’u cefnogi ar amser mor allweddol yn eu bywydau," ychwanegodd Irfon.Mae'r cynlluniau ar gyfer y cartref newydd wedi eu datblygu gyda phobl ifanc o bob rhan o Ogledd Orllewin Cymru.Un o'r rhai sydd wedi bod yn rhan o'r broses yw Nia Hâf: "Mae'r broses yma wedi bod yn wirioneddol gydweithredol ac mae'r weledigaeth yn adlewyrchu anghenion a dyheadau pobl ifanc - bydd yn rhoi lle diogel i ni ymgysylltu, creu, chwarae a phrofi popeth y gall theatr a'r celfyddydau creadigol eu cynnig."Disgwylir i'n cartref newydd fod yn hwb i artistiaid ifanc a newydd yng Ngogledd Cymru.“Bydd Nyth yn caniatáu i ni barhau i gyflwyno gweithgareddau celfyddydol o ansawdd uchel i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc creadigol a mentrus. Mae rhoi platfform i artistiaid ifanc ddatblygu a rhannu gwaith yn greiddiol i’r weledigaeth,” meddai Nia Jones, ein Cyfarwyddwr Gweithredol."Mewn cyfnod o bwysau economaidd cynyddol, bydd y datblygiad yn cyfrannu tuag at gynaliadwyedd Frân Wen, a bydd yn ein galluogi i gyflwyno rhaglen artistig uchelgeisiol i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol."Yn dilyn pryniant y safle y cam nesaf yw gwahodd penseiri i ymateb i’r weledigaeth a datblygu cynlluniau i drawsnewid yr hen eglwys.[caption id="attachment_4302" align="alignleft" width="1024"] Cadeirydd Irfon Jones a rhai o'r bobl ifanc tu allan i'r safle newydd.[/caption]"Rydym yn annog penseiri i ddatblygu syniadau arloesol a beiddgar i adfer ac ailfodelu'r hen eglwys yn adeilad unigryw a chyfoes sy’n ateb ein gofynion," ychwanegodd Nia.Byddwn yn cynnal ymgynghoriad llawn fel rhan o gam nesaf y datblygiad."Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r gymuned ehangach i greu hwb y gallant deimlo perchnogaeth gwirioneddol drosto.”Mae’r cam datblygu wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.Dywedodd Kath Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Buddsoddi ac Ariannu, Cyngor Celfyddydau Cymru: "Mae'n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru gefnogi datblygiad celfyddydau gyda phobl ifanc drwy ailddatblygiad yr adeilad hanesyddol hwn. Mae'r cynlluniau sydd wedi eu datblygu gan Frân Wen - i greu canolfan greadigol bwrpasol gwerth £3.2 miliwn i blant a phobl ifanc ym Mangor - yn gyffrous iawn a gobeithiwn y bydd yn trawsnewid eu gwaith a’u cyrhaeddiad."Nod strategol allweddol Cyngor Celfyddydau Cymru yw sicrhau bod y celfyddydau ‘er budd pawb ’ac mae ailddatblygu'r adeilad yma gan Frân Wen yn gyfraniad amlwg i'r nod hwn.”Ychwanegodd Matthew Mckeague, Prif Weithredwr y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol: “Mae gweledigaeth Frân Wen ar gyfer yr adeilad hanesyddol hwn wedi creu argraff mawr arnom ni yn ogystal â’u dull o gyflawni hyn. Heb os, bydd ymgysylltu â phobl ifanc yn y cam dylunio pwysig hwn yn dod â syniadau ffres a chreadigol i'r amlwg a fydd yn helpu i wireddu'r gweledigaeth. Rydym yn falch iawn o gefnogi datblygiad y prosiect a fydd, yn ei dro, yn elwa mewn sawl ffordd: rhoi bywyd newydd i adeilad hanesyddol, gwag; ychwanegu at gynnig diwylliannol Bangor; helpu cynaliadwyedd hir dymor Frân Wen; a gwella mynediad pobl ifanc i'r celfyddydau.”Bydd y pecyn ariannu cyfalaf yn cael ei gadarnhau yn ystod y cyfnod datblygu a rhagwelir y bydd y cyllid ar gyfer gwireddu gweledigaeth Nyth yn dod o ffynonellau buddsoddi cyfalaf amrywiol gan gynnwys loteri, buddsoddiad preifat, grantiau buddsoddi cyfalaf, cyfraniadau a chodi arian.Amcangyfrifir y bydd y cam datblygol yn parhau am 12 mis a bydd amserlen pellach i'r prosiect yn cael ei ryddhau wedi hynny.-----------------------------MANYLION YCHWANEGOLTendr Datblygu'r Cynlluniau