Pay Dd6
08.02.13

Asiantaeth Gelfyddydau Ysgolion Gwynedd a Môn

[caption id="attachment_423" align="alignnone" width="547"]Masgiau Larval Masgiau Larval[/caption]
Gyda Asiantaeth Gelfyddydau Ysgolion Gwynedd a Môn yn dathlu deng mlynedd o waith eleni ‘rydym yn falch o fedru cyhoeddi ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau arian nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru am flwyddyn ysgol arall. Mae’r gefnogaeth hon yn ein galluogi i arbrofi a datblygu ein gwaith i feysydd newydd.
Eleni, am y tro cyntaf erioed, mae'r Asiantaeth yn cynnal rhaglen artistiaid preswyl. Penodwyd Cwmni’r Frân Wen i gynnal rhaglen o weithgarwch drama a’r cerddor Manon Llwyd â Pontio yn cynnal cynllun o weithdai cerdd.Bydd gweithdai drama “Gweld o’r Newydd” Cwmni’r Frân Wen yn cynnig cyfleoedd i gyd-chwarae, dyfeisio a chreu cymeriadau ac i feithrin sgiliau newydd mewn awyrgylch chwareus a direidus. Mae’r gweithdai cerdd “Siapiau Sŵn” gan Manon Llwyd a Pontio yn cynnig cyfle i gyfathrebu drwy gerdd ac i wrando a sylwi ar siapiau cerddorol a fydd yn diweddu mewn perfformiad yn Neuadd PJ, Bangor.Darllenwch fwy yma am gynnwys y gweithdai a mynnwch ymweliad â’ch ysgol chi…I ddarllen mwy am yr elfen cerdd a drama cliciwch ymaLlyfryn y cynllun - Cerdd a Drama ~ Music & Drama 2013