Mewn Datblygiad Arddangosfa
Baner 120960
Baner Sbectol Haul
Baner Sbectol Haul2

Pobl ifanc yn creu, arwain a chyflwyno.

Mae’r Cwmni Ifanc yn creu theatr amlddisgyblaethol uchelgeisiol sy’n dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn berson ifanc yng Ngogledd Orllewin Cymru heddiw.

Maen nhw’n cyfarfod trwy gydol y flwyddyn i:

  • Creu, cynhyrchu a rhannu theatr ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol ysbrydoledig.
  • Datblygu eu celf unigryw trwy weithdai rhannu sgiliau a dosbarthiadau meistr gyda gwneuthurwyr theatr blaenllaw.
  • Ymweld â theatrau arloesol ar draws y DU, i brofi’r theatr fwyaf perthnasol a beiddgar.
  • Chwarae rhan ganolog ym mhenderfyniadau, rhaglennu a llywodraethu Frân Wen.
  • Fod yn lais ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru trwy gydweithio, datblygu a phartneriaethau diwylliannol.

Mae holl waith y Cwmni Ifanc yn bwydo mewn i'n rhaglen artistig.

ENGHREIFFTIAU O'U GWAITH

CREU THEATR
FAUST + GRETA

Wedi'i ddyfeisio a'i berfformio gan ensemble o bobl ifanc yng nghanol y cyfnod clo, dyma brofiad theatrig digidol roedd yn delio â'r obsesiwn dynol o angen mwy o bopeth, angen pŵer a gwthio ffiniau i'r eithafion.

Mwy