Datblygu to newydd o artistiaid ifanc gydag anghenion arbennig.
Wedi ei ariannu gan BBC Plant Mewn Angen, mae Llwybrau Llachar yn brosiect aml-gelfyddydol gan gwmni theatr Frân Wen sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol i gydweithio yn ddwys gydag artistiaid proffesiynol i ddatblygu eu crefft.
Nod Llwybrau Llachar yw datblygu hyder a chysylltiadau cymdeithasol y bobl ifanc tra hefyd yn rhoi gwell dealltwriaeth iddynt o'u potensial - ein cyfrifoldeb ni fel cwmni yw cynnig pob cefnogaeth gan sicrhau awyrgylch creu diogel i sicrhau llwyddiant.
Hanfod y cynllun yw rhoi cyfle i bobl ifanc wireddu eu dyheadau creadigol. Y bobl ifanc sy’n arwain ar bob penderfyniad gan gynnwys y ffurf ar gelfyddyd yr hoffent ei ddatblygu a’r artistiaid yr hoffent gydweithio â hwy.Nia Hâf, Cyfarwyddwr Cwmni Ifanc Frân Wen